Neidio i'r prif gynnwys

Haf yn y Senedd

Dyddiad(au)

19 Gorff 2025 - 31 Awst 2025

Amseroedd

10:30 - 16:30

Lleoliad

Y Senedd, Bae Caerdydd

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Ymunwch â ni yn y Senedd yr haf hwn am gyfres o weithgareddau cyffrous! Ar agor 7 diwrnod yr wythnos o 19 Gorffennaf tan 31 Awst. Mynediad am ddim.

 

Arddangosfeydd

  • Wanderlust: Darganfyddwch ddiwylliant cyfoethog, bywiog cymunedau Sipsiwn a Theithwyr trwy ffotograffiaeth a barddoniaeth pwerus.
  • Â’n gwreiddiau yn ein Dhaqan: Yr haf hwn, mae’r Senedd yn falch o gynnal Â’n gwreiddiau yn ein Dhaqan, arddangosfa newydd a grëwyd gan Ymddiriedolaeth Menywod Hayaat a chylchgrawn Al Naaem. Mae’r prosiect yn deyrnged bwerus i gryfder, gwydnwch a harddwch treftadaeth Somalia.

 

Gweithgareddau

  • “Ry’n ni’n rhan o’r cyfoeth o bwy ydym ni” – Gweithgaredd Rhannu ‘Â’n gwreiddiau yn ein Dhaqan’: Mae’r ffilm Â’n gwreiddiau yn ein Dhaqan yn dathlu treftadaeth Somalïaidd yng Nghymru. Pe gallech chi wneud ffilm sy’n dathlu eich diwylliant neu’ch cymuned, beth fyddech chi eisiau ei rannu gyda phobl y dyfodol? Dewch i weld yr arddangosfa a rhannu eich meddyliau yn y Senedd.
  • Gweithdy creadigol gydag Al Naaem: Fel rhan o’r arddangosfa ‘Â’n gwreiddiau yn ein Dhaqan’, bydd Al Naaem yn cynnal gweithdy barddoni ac ysgrifennu creadigol gyda’r nod o rymuso pobl ifanc a datblygu eu creadigrwydd. Bydd cyfranogwyr yn archwilio eu treftadaeth a’u hunaniaethau trwy ymarferion ysgrifennu dan arweiniad ac adrodd straeon, gan helpu iddynt ddatblygu eu lleisiau unigryw eu hunain a meithrin hyder.
  • Cardiau Post o’r Dyfodol: Sut ydych chi’n meddwl y bydd Cymru ymhen 10, 20 neu hyd yn oed 50 mlynedd? Sut gyrhaeddon ni yno? Rhowch wybod i Bwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd, drwy greu eich cerdyn post eich hun o’r dyfodol.
  • Crefft: Beth am fod yn greadigol – fe gewch fwrw ati i wneud crefftau diddorol yn ystod eich ymweliad â’r Senedd, a darperir amrywiaeth o ddeunyddiau ar eich cyfer.
  • Ardal Chwarae: Mae gan ein hardal sy’n ystyriol o deuluoedd lawer o deganau i chwarae gyda hwy a map mawr o Gymru i’w archwilio. Tra bod y plant yn chwarae gallwch chi fwynhau paned yng nghaffi’r Senedd, sydd ond ychydig droedfeddi i ffwrdd.
  • Llyfrynnau Gweithgareddau – Fforwyr y Senedd ac Antur Fflam yn y Pierhead: Archwilio’r senedd a’r Pierhead gyda’n llyfrynnau gweithgareddau i blant 5-12 oed.
  • Teithiau a Sgyrsiau: Ymunwch â thaith dywys neu sgyrsiau a dysgwch fwy am waith Senedd Cymru, pensaernïaeth nodedig yr adeilad a hanes Bae Caerdydd.