Beth wyt ti'n edrych am?
Hwyl y gaeaf yn y Senedd
Dyddiad(au)
04 Ion 2025
Amseroedd
10:30 - 16:30
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Ymunwch â ni yn y Senedd y gaeaf hwn ar gyfer llawer o weithgareddau rhad ac am ddim i’r teulu!
*Llwybr Ceirw Bae Caerdydd*
30 Tachwedd – 5 Ionawr
Helpwch Siôn Corn i ddod o hyd i’r ceirw coll a chanfod y gair gaeafol er mwyn cael cyfle i ennill diwrnod i’r teulu ym Mae Caerdydd. Cofiwch ymweld â’r Senedd i gwblhau eich chwiliad!
Gallwch weld y ceirw y tu mewn i adeilad y Senedd neu o’r ffenestr ar frig y grisiau pan fo ar gau.
Ewch i www.visitcardiffbay.info am fwy o fanylion, a gallwch gasglu map mewn lleoliad sy’n cymryd rhan yn y Bae.
*Crefftau Cymeriadau Eira*
Dyddiadau dethol ym mis Rhagfyr a mis Ionawr. Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn drwy gydol y gweithdy.
Byddwn yn dathlu lansiad Llwybr Ceirw Bae Caerdydd gyda diwrnod o grefftau ddydd Sadwrn 30 Tachwedd. Ymunwch â ni drwy gydol y dydd i addurno eich cymeriadau eira eich hun a thrugareddau gaeaf.
Darperir yr holl ddeunyddiau. Nid oes angen cadw lle ymlaen llaw. Gallwch alw heibio ar y diwrnod ei hun.
Yna, bydd crefftau Cymeriadau Eira ar gael yn y Senedd ar ddyddiadau dewisol ym mis Rhagfyr a mis Ionawr:
Dyddiadau ym mis Rhagfyr:
Dydd Sadwrn 7
Dydd Sadwrn 14
Dydd Llun 16 – Dydd Sadwrn 21
Dydd Llun 23 – Dydd Mercher 24
Dyddiadau ym mis Ionawr:
Dydd Iau 2 – Sadwrn 4
*Fforwyr y Senedd*
Archwiliwch y Senedd gyda’n llyfrynnau gweithgareddau i blant 5-12 oed. Darganfyddwch fapiau Cymru, twndis, dresel Gymreig, ac oriel gyhoeddus!
*Man Chwarae*
Wrth ymyl y caffi, mae gan ein man ystyriol o deuluoedd lawer o deganau i chwarae gyda nhw a map mawr o Gymru i’w archwilio.
*Teithiau Tywys*
Ymunwch â thaith dywys i ddarganfod mwy am y Senedd – o’i phensaernïaeth a’i hanes i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed!