Beth wyt ti'n edrych am?
& Juliet
Dyddiad(au)
16 Meh 2025 - 28 Meh 2025
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Mae bywyd ar ôl Romeo!
Dewch ar daith anhygoel wrth i Juliet gefnu ar ei diweddglo enwog i gael dechreuad newydd a chyfle arall i fyw a syrthio mewn cariad – yn ei ffordd hi. Wedi’i chreu gan awdur Schitt’s Creek a enillodd wobr Emmy, mae’r sioe gerdd ddoniol yma yn troi sgript y stori gariad fwyaf erioed ar ei phen ac yn gofyn beth fyddai’n digwydd nesaf pe na bai Juliet wedi rhoi pen ar y cwbl oherwydd Romeo?
Mae stori newydd Juliet yn dod yn fyw drwy restr chwarae o anthemau pop, gan gynnwys Baby One More Time gan Britney Spears, Roar gan Katy Perry a chaneuon eraill a gyrhaeddodd frig y siartiau fel Since U Been Gone, It’s My Life, Can’t Stop the Feeling a mwy – i gyd gan Max Martin, y cyfansoddwr caneuon/cynhyrchydd talentog sydd tu ôl i fwy o ganeuon #1 nag unrhyw artist arall y ganrif yma, a’i gydweithredwyr. Anghofiwch olygfa’r balconi a mwynhewch y gomedi ramantus yma sy’n dangos bod bywyd ar ôl Romeo. Yr unig beth trasig fyddai colli allan.