Beth wyt ti'n edrych am?
Gwyl Llais
Dyddiad(au)
11 Hyd 2023 - 15 Hyd 2023
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Mae Llais, gŵyl gelfyddydau ryngwladol Canolfan Mileniwm Cymru, yn ôl rhwng 11 a 15 Hydref gyda rhaglen eclectig wedi’i hysbrydoli gan yr offeryn sy’n ein cysylltu ni i gyd – y llais.
Mae’r don gyntaf o gyhoeddiadau yn cynnwys Both Sides Now: Celebrating Joni Mitchell – awdl i’r perfformiwr eiconig sy’n cynnwys rhestr anhygoel o gantorion benywaidd gan gynnwys Charlotte Church o Gaerdydd, y gantores Brydeinig Laura Mvula, yr aml-offerynnwr ESKA a Gwenno. Bydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn ymuno â’r pedair artist, yn y perfformiad cerddorfaol cyntaf yn y byd o Both Sides Now.
Ar ben hyn, bydd Bat for Lashes hefyd yn ymddangos yn Llais, gan berfformio caneuon eiconig o’i phum albwm a arweiniodd ati’n cael tri enwebiad ar gyfer Gwobr Mercury.
Bydd The Unthanks yn cynnal digwyddiad diwrnod cyfan arbennig yn cynnwys cyngherddau, digwyddiadau cyfranogol a pherfformiadau o’u halbymau penigamp The Bairns, Here’s The Tender Coming a Last.
Mae mwy o gerddoriaeth fyw gan Mariza, Qawwali Flamenco, The Staves, Tomos Williams ac Angeline Morrison yn ogystal â Battlescar, profiad realiti rhithwir a fydd yn eich cludo i sin pync Efrog Newydd y 1970au.
Bydd amserlen lawn hefyd o weithdai a digwyddiadau am ddim ar draws pob rhan o Ganolfan Mileniwm Cymru ynghyd ag ychydig o berfformiadau ychwanegol y byddwn yn gallu eu rhannu â chi yn ystod y misoedd nesaf. Manylion i ddod!
Mae’r ŵyl eleni wedi’i churadu ar y cyd gan Gwenno, a dderbyniodd Wobr Gerddoriaeth Cymru am ei halbwm Y Dydd Olaf yn 2014 ac yr oedd ei halbwm diweddaraf Tresor (2022) ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Mercury. Bydd hi’n ymddangos ar lwyfan Theatr Donald Gordon ar y nos Sul gyda pherfformiad ôl-weithredol o ganeuon wedi’u cymryd o bob un o’i thri albwm.