Neidio i'r prif gynnwys

MC Hammersmith

Dyddiad(au)

02 Mai 2024

Amseroedd

20:30 - 22:00

Lleoliad

Canolfan Mileniwm Cymru, Bute Place, Bae Caerdydd, CF10 5AL

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Gyda fideos sydd wedi cael eu gwylio dros 20 miliwn o weithiau ar-lein, mae MC Hammersmith yn ddigrifwr rap dull rhydd arobryn.

Fe yw rapiwr gangsta mwyaf blaenllaw’r byd i ddod o geto dosbarth canol gorllewin Llundain.

Mae’n cyflwyno noson o rapiau comedi byrfyfyr yn seiliedig yn llwyr ar eich awgrymiadau. Byddwch chi’n gadael wedi’ch synnu gan gyflymder ei ymennydd, natur ddigymell ei jôcs a sefydlogrwydd ei fagwraeth.

Byth yr un sioe ddwywaith, gwesteion annisgwyl a chomedi hip hop cyflym.

Rhyfeddol, doniol, hollol anghredadwy.