Beth wyt ti'n edrych am?
Nadolig ym Mharc Bute
Dyddiad(au)
01 Rhag 2022 - 01 Ion 2023
Amseroedd
16:15 - 20:30
Gwybodaeth am y Digwyddiad
MAE NADOLIG YM MHARC BUTE YN DYCHWELYD I GAERDYDD GYDAG ARLWY O RYFEDDODAU GAEAFOL
Mae’r Nadolig ym Mharc Bute yn ôl a bydd yn fwy disglair nag erioed yn 2022 wrth iddo ddychwelyd am ei ail flwyddyn gyda llu o atyniadau newydd.
Bydd y digwyddiad arobryn yn ceisio efelychu llwyddiant mawr 2021 gyda gosodiadau newydd sbon gan gynnwys ‘taith laser hypnotig’ gyffrous, ‘orb epig symudliw’, a ‘Chanion Goleuadau’ hudolus gyda mil o sêr llesmeiriol.