Beth wyt ti'n edrych am?
National History Museum yn cyflwyn Dinosaurs Live!
Dyddiad(au)
28 Chwe 2025
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Am y tro cyntaf ers 1881, mae cartref deinosoriaid, Natural History Museum, yn mynd ar daith!
Ers iddyn nhw gael eu darganfod gyntaf yn y 1800au, mae deinosoriaid wedi tanio dychymyg plant ac oedolion ac am y tro cyntaf erioed, mae’r Natural History Museum fyd-enwog wedi cydweithio â Mark Thompson Productions i fynd â chi ar antur deinosoriaid heb ei thebyg.
Byddwn ni’n mynd ar daith gynhanesyddol gyda’n gilydd i’r cyfnodau Triasig, Jwrasig a Chretasig a gweld y deinosoriaid yn dod yn fyw ar y llwyfan!
Nid yn unig hynny, byddwn ni hefyd yn dysgu mwy am ffosiliau, graddfeydd amser a sut mae ein planed wedi newid dros gannoedd o filiynau o flynyddoedd.
Felly paratowch ar gyfer profiad anhygoel ac unigryw!