Neidio i'r prif gynnwys

Norma Winstone a Kit Downes

Dyddiad(au)

14 Meh 2025

Amseroedd

19:30 - 21:30

Lleoliad

Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Heol y Gogledd, Caerdydd CF10 3ER

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Yn un o dalentau lleisiol a thelynegwyr gorau a mwyaf amryddawn Prydain, daeth Norma Winstone yn ffigwr nodedig ar y sîn jazz ym Mhrydain yn ystod y chwedegau pan rannodd y bil yn Ronnie Scott’s gyda Roland Kirk. Ers hynny, mae hi wedi cydweithio’n aml gyda cherddorion fel Steve Swallow, Kenny Wheeler, a Dave Holland ymhlith eraill, a daeth yn adnabyddus am ddatblygu ei hagwedd ddi-eiriau ei hun wrth fyrfyfyrio.

Ynghyd â’r pianydd Kit Downes, bydd Norma yn dod â’i theimladrwydd barddonol i ddarnau newydd gan Downes yn ogystal â chyfansoddiadau gan Carla Bley, Ralph Towner, a John Taylor, gyda safbwyntiau ffres ar ddwy alaw draddodiadol, ‘Black Is The Colour, a ‘Rowing Home’.

‘Rydw i’n chwilio am eiriau sydd eisoes yn y gerddoriaeth. Bob tro. Dyna sut rwy’n gweithio. Ac os yw’r geiriau’n dod, mae fel pe baent yno bob amser.’ – Norma Winstone