Beth wyt ti'n edrych am?
Nye
Dyddiad(au)
22 Awst 2025 - 30 Awst 2025
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Breuddwyd un dyn o’r GIG, gyda Michael Sheen.
O ymgyrchu yn y meysydd glo i arwain y frwydr i greu’r Gwasanaeth Iechyd, cyfeirir at Aneurin ‘Nye’ Bevan yn aml fel y gwleidydd sydd wedi cael y dylanwad mwyaf ar y DU heb erioed fod yn Brif Weinidog.
Yn wyneb marwolaeth, mae atgofion dyfnaf Nye yn ei arwain ar daith ryfeddol yn ôl drwy ei fywyd; o’i blentyndod i gloddio dan ddaear, Senedd San Steffan a dadleuon gyda Churchill mewn ffantasia Gymreig epig.
Mae Michael Sheen (Good Omens) yn dychwelyd i chwarae Nye Bevan yn y ddrama yma sy’n ddatganiad dewr a gwerthfawr am y GIG (★★★★ Telegraph). Wedi’i hysgrifennu gan Tim Price (Teh Internet is Serious Business) a’i chyfarwyddo’n ddisglair (★★★★ Times) gan Rufus Norris (Small Island), mae’r dathliad yma o fywyd a gwaddol y dyn a drawsnewidiodd y wladwriaeth les yn dychwelyd i Ganolfan Mileniwm Cymru ar ôl gwerthu pob tocyn yn 2024.
Cyd-gynhyrchiad National Theatre a Chanolfan Mileniwm Cymru