Neidio i'r prif gynnwys

Phil Okwedy: The Gods Are All Here

Dyddiad(au)

24 Ion 2025

Amseroedd

19:30 - 21:30

Lleoliad

Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Heol y Gogledd, Caerdydd CF10 3ER

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Wedi’i sbarduno gan ddarganfyddiad cyfres o lythyrau oddi wrth ei dad yn Nigeria i’w fam yng Nghymru, mae The Gods Are All Here yn berfformiad un-dyn cryf, telynegol a chynnes gan y chwedleuwr blaenllaw Phil Okwedy.

Mae’r perfformiad hudolus, cywrain hwn yn plethu chwedlau, caneuon a straeon gwerin y diaspora Affricanaidd gyda stori bersonol ryfeddol sy’n dadlennu profiadau Phil o gael ei fagu fel plentyn treftadaeth ddeuol yng Nghymru’r 1960au a’r 1970au’. Drwy ymchwilio cydraddoldeb, rhyddid, hiliaeth, teulu a chael eich magu heb eich rhieni gwaed, mewn perfformiad teimladwy, doniol a hiraethus, mae The Gods Are All Here ar yr un pryd yn stori heb amser ac eto’n bendant iawn yn stori am heddiw!

Adverse Camber Productions mewn cydweithrediad â Theatrau Sir Gȃr
Creu a pherfformio gan Phil Okwedy
Cyfarwyddir gan Michael Harvey

Oed 12+

£8-£16