Neidio i'r prif gynnwys

Rakesh Chaurasia & Shahbaz Hussain

Dyddiad(au)

20 Maw 2025

Amseroedd

19:30 - 21:30

Lleoliad

Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Heol y Gogledd, Caerdydd CF10 3ER

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Mae’r ffliwtydd Indiaidd ac enillydd dwy wobr Grammy, Rakesh Chaurasia, wedi creu arddull chwarae sy’n adnabyddadwy iawn a llawn emosiwn. Mae’r chwaraewr bansuri (ffliwt fambŵ) yn cofleidio’r modern ochr yn ochr â’i ymroddiad i gerddoriaeth glasurol Indiaidd ac mae ei statws cynyddol wedi arwain at berfformiadau ledled y byd, gan syfrdanu’r rheini sy’n newydd i’r offeryn a dilynwyr cerddoriaeth draddodiadol Indiaidd fel ei gilydd.

Gyda dim ond ei anadl a darn twyllodrus o syml o fambŵ gwag, mae ei chwarae hynod ddeheuig a chynnil yn meddu ar harddwch prin a chydbwysedd o gryfder a thawelwch. Yn ymuno â Rakesh mae un o feistri tabla mwyaf medrus ei genhedlaeth, Shahbaz Hussain.

£9-£18