Beth wyt ti'n edrych am?
Ras Llawn Hwyl Bigmoose
Gwybodaeth am y Digwyddiad
5k, 10k, hanner marathon, marathon llawn, marathon pellter eithafol… chi sy’n penderfynu. Bydd hon yn ras hwyl hollgynhwysol mewn cylch a fydd yn amrywio o 5k yr holl ffordd i farathon pellter eithafol. Rydym am i bawb gymryd rhan. P’un a ydych yn gwneud her o’r soffa i 5k, yn rhedeg gyda thîm, yn rhedeg gyda’ch plant neu’n rhedeg pellter hirach – mae i gyd yn gamp i ymfalchïo ynddi. Mae’n sicr y bydd awyrgylch anhygoel i’w fwynhau a byddin o sbotiau oren i’w gweld. Dewch i ymuno â ni am ddiwrnod llawn hwyl ym Mharc Bute ar 14 Ebrill 2024.
Mae crys T llawn sbotiau wedi’i gynnwys yn y pris mynediad. Bydd angen i blant 18 oed neu iau fod yng nghwmni oedolyn.