Beth wyt ti'n edrych am?
Send In The Clowns
Dyddiad(au)
11 Ebr 2025
Amseroedd
20:00 - 22:30
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Sioe rifiw drag aflafar, gwyllt a phryfoclyd yw Send In The Clowns, sy’n dathlu hud a gwiriondeb theatr gerdd.
Y tro yma mae’r Clowns yn ymgymryd â’r SIOE GERDD ROC (ac weithiau rôl), gyda dathliad/llofruddiad o fyd caled theatr gerdd, yn eu sioe fwyaf cywilyddus eto, C*CK OF AGES. Gallwch chi ddisgwyl fersiynau unigryw o RENT, Rock Of Ages, The Rocky Horror Show, Jesus Christ Superstar, We Will Rock You, Hair a Grease ymhlith eraill.
Ymunwch â’ch cyflwynydd, y seren cabaret ac enillydd Drag Idol UK Fatt Butcher ochr yn ochr â lein-yp anhygoel o ddoniau drag a cabaret gorau canolbarth Lloegr, gan gynnwys Dahliah Rivers, Blü Romantic ac Alanna Boden.
Mae Send In The Clowns: C*CK OF AGES, sy’n dod yn ddigwyddiad cwlt ym Mirmingham yn gyflym, ac ar ôl taith o’r DU yn 2024 a werthodd allan, yn addo sioe fythgofiadwy ac aflafar yn llawn comedi cywilyddus, lleisiau byw anhygoel, cabaret camp, meimio a chanu torfol. Mae pob sioe yn gorffen gyda’n ‘sioe gerdd ugain munud’ na ddylech chi ei cholli, fersiwn drag o sioe gerdd enwog sy’n cael ei hymarfer mewn dau ddiwrnod a’i pherfformio mewn 20 munud neu lai – beth allai fynd o’i le?!