Neidio i'r prif gynnwys

Streic! 84-85 Strike!

Dyddiad(au)

26 Hyd 2024 - 27 Ebr 2025

Lleoliad

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NP

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Yr Arddangosfa
1984: Y flwyddyn aeth Margaret Thatcher benben â’r cymunedau glofaol.

Arweiniodd haf llawn gobaith a gwrthsefyll angerddol at aeaf o drais, caledi, colli bywoliaeth – a bywydau – ledled rhai o gymunedau mwyaf gwydn Cymru. 40 mlynedd yn ddiweddarach, mae effaith Streic y Glowyr yn parhau. O luniau a phlacardiau protest i straeon personol o frawdoliaeth yn eu brwydr yn erbyn byd oedd yn prysur newid, mae’r arddangosfa bwysig hon yn taflu goleuni ar Streic y Glowyr a’i effaith hynod ar ein gwlad.

Dewch i weld angerdd a thensiwn y brotest.