Neidio i'r prif gynnwys

TAFWYL

Dyddiad(au)

12 Gorff 2024 - 14 Gorff 2024

Lleoliad

Parc Bute, Caerdydd CF10 3DX

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Bydd Tafwyl 2024 yn digwydd yn Parc Bute a adnabyddir fel calon werdd y ddinas, sydd wedi ei leoli y tu ôl i Gastell Caerdydd, a thaith gerdded fer o brif strydoedd a chanolfan ddinesig y ddinas.

Mae Tafwyl yn ddathliad blynyddol o’r gorau o gerddoriaeth, diwylliant a chelfyddydau Cymraeg yng nghalon Caerdydd. Mae’n ddathliad o’r iaith, ac yn gyfle i drigolion y ddinas i fwynhau gwledd o adloniant, bwyd stryd a stondinau marchnad o bob math! Gyda tair llwyfan yn gartref i artistiaid a cherddoriaeth o bob math, pabell Llais yn gartref i drafodaethau a sgyrsiau ar amrywiaeth o bynciau, ardal chwaraeon a phentre plant, bydd rhywbeth i’r teulu cyfan. Mae’n ddigwyddiad am ddim, sy’n agored i bawb a hynny heb angen am docyn felly dewch i ymuno yn yr hwyl a mwynhau popeth sydd gan Tafwyl i’w gynnig!