Neidio i'r prif gynnwys

Teithiau Arswydus Canolfan Mileniwm Cymru

Dyddiad(au)

28 Hyd 2024 - 04 Tach 2024

Lleoliad

Canolfan Mileniwm Cymru, Bute Place, Bae Caerdydd, CF10 5AL

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Dewch am daith gefn llwyfan – gyda thamaid o arswyd – i gael cipolwg ecsgliwsif ar fyd y theatr tu ôl i’r llen, gyda straeon theatraidd iasol.

Gan ddechrau yn ein Theatr Donald Gordon eiconig, cewch eich tywys drwy’r ardaloedd cefn llwyfan cudd, gan orffen gyda chyfle i dynnu lluniau o’r wal arysgrif enwog. Ar hyd y daith bydd ein tywyswyr yn rhannu straeon iasol o theatrau o bob cwr o’r wlad.

Rydyn ni’n falch iawn o fod yn hygyrch ac yn groesawgar i bawb. Os oes gennych unrhyw anghenion hygyrchedd penodol, cysylltwch â ni cyn y daith fel y gallwn ni wneud unrhyw drefniadau angenrheidiol.

Mae pris eich tocyn yn cynnwys siocled poeth pan fyddwch yn cyrraedd. Gofynnwn i chi gyrraedd Ffwrnais, ein caffi-bar ar y llawr gwaelod, o leiaf 30 munud cyn i’r daith gychwyn a dangos eich tocyn er mwyn hawlio eich diod am ddim.