Beth wyt ti'n edrych am?
This is Me, Shirley Bassey
Dyddiad(au)
19 Ebr 2025
Amseroedd
20:00 - 22:30
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Llythyr gariad at Shirley Bassey. O ddociau Tiger Bay i lannau Monte Carlo, mae ‘This Is Me’ yn sioe unigryw sy’n talu teyrnged i berfformiwr aruthrol a’i gyrfa sydd wedi para 65 mlynedd.
Stori o garpiau i gyfoeth y ferch ddigyffelyb o Tiger Bay, y Fonesig Shirley Bassey, mae ‘This Is Me’ yn cynnwys caneuon o wyth degawd – ‘I Am What I Am’, ‘Big Spender’ a ‘Goldfinger’ i enwi ond ychydig. Gyda sgript unigryw sy’n cynnwys drama, hiwmor, trasiedi a phathos, mae’r sioe yn datgelu uchafbwyntiau ac isafbwyntiau bywyd o dan y sbotolau, o safbwynt parchus cefnogwr oes, Rachael Roberts.
Mae’r glamor, wrth gwrs, yn bresennol, gyda llawer o wisgoedd gwahanol yn ogystal â phlu a secwinau. ‘Diamonds Are Forever’ yn wir, ac mae’r deyrnged bersonol yma i’r Fonesig Shirley Bassey yn sioe na ddylech ei cholli.