Beth wyt ti'n edrych am?
TINA – The Tina Turner Musical
Dyddiad(au)
10 Chwe 2026 - 28 Chwe 2026
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Mae llwyddiant ysgubol y West End TINA – The Tina Turner Musical yn dod i Gaerdydd fel rhan o’i daith gyntaf erioed o’r DU ac Iwerddon.
O ddechrau diymhongar yn Nutbush, Tennessee i’w gyrfa lwyddiannus fel cantores fyd-eang arobryn, roedd Tina Turner ddim yn unig yn torri’r rheolau, ond yn eu hailysgrifennu, gan ennill 12 o wobrau Grammy a gwerthu mwy o docynnau cyngerdd nag unrhyw berfformiwr unigol arall yn hanes cerddoriaeth.
Wedi’i gosod i drac sain nerthol ei chaneuon eiconig, gan gynnwys The Best, What’s Love Got To Do With It?, Private Dancer a River Deep, Mountain High, darganfyddwch y galon a’r enaid tu ôl i Frenhines Roc a Rôl.
Profwch ei stori ysbrydoledig yn fyw ar y llwyfan wrth i’r dathliad bywiog yma ddatgelu hanes heb ei ddweud menyw a oedd yn mentro breuddwydio’n ffyrnig, chwalu rhwystrau a herio terfynau oed, rhywedd a hil i ennill calon y byd er gwaethaf pob disgwyl.
Wedi’i chyflwyno mewn cysylltiad â Tina Turner, ei hysgrifennu gan y dramodydd sydd wedi ennill gwobr Olivier a Pulitzer, Katori Hall (The Mountaintop) a’i chyfarwyddo gan y cyfarwyddwr rhyngwladol llwyddiannus Phyllida Lloyd (Mamma Mia!), peidiwch â cholli’r sioe pum-seren yma.