Neidio i'r prif gynnwys

UPROAR: Concerto Siambr Ligeti

Dyddiad(au)

13 Maw 2025

Amseroedd

19:30 - 21:30

Lleoliad

Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Heol y Gogledd, Caerdydd CF10 3ER

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Mae ensemble UPROAR o 16 o unawdwyr penigamp yn parhau i wthio ffiniau cerddoriaeth newydd o Gymru gyda thri chomisiwn newydd gan David John Roche, Litang Shao ac Ashley John Long, un o raddedigion CBCDC. Mae’r Concerto Siambr gan Ligeti (cyfansoddwr arloesol Hwngaraidd-Awstriaidd sy’n cael ei gydnabod yn eang am ei gerddoriaeth yn y ffilm 2001: A Space Odyssey) yn cael ei pherfformiad cyntaf yng Nghymru fel y mae Hrim, atgof nerthol Anna Thorvaldsdottir o bŵer elfennol.

Cefnogir yn hael gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Sefydliad Garfield Weston, Ymddiriedolaeth Gibbs, Elusen Gwendoline a Margaret Davies, Sefydliad Hinrichsen, Tŷ Cerdd a Sefydliad Vaughan Williams.

£16