Neidio i'r prif gynnwys

War Horse

Dyddiad(au)

14 Hyd 2025 - 25 Hyd 2025

Lleoliad

Canolfan Mileniwm Cymru, Bute Place, Bae Caerdydd, CF10 5AL

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Mae’r ffenomenon byd-eang yn dychwelyd i Gaerdydd.

Mae cynhyrchiad llwyddiannus y National Theatre yn dychwelyd mewn taith newydd sbon o’r DU ac Iwerddon. Mae War Horse yn brofiad theatraidd bythgofiadwy sy’n mynd â chynulleidfaoedd ar daith arbennig o gaeau gwledig Dyfnaint i ffosydd Ffrainc yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn seiliedig ar y nofel boblogaidd gan Michael Morpurgo, mae’r ddrama emosiynol a dychmygus yma, sy’n llawn cerddoriaeth a chaneuon cynhyrfus, yn sioe o ddyfeisgarwch rhyfeddol. Wrth ei gwraidd mae ceffylau maint go iawn syfrdanol gan Handspring Puppet Company o Dde Affrica, sy’n dod â cheffylau sy’n anadlu, yn carlamu ac yn rhuthro yn fyw ar y llwyfan.

Ar ddechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf, caiff Joey, ceffyl annwyl Albert, ei werthu i’r Gwŷr Meirch a’i anfon i Ffrainc. Yn fuan caiff ei ddal mewn ymosodiad gan y gelyn, ac mae ffawd yn mynd ag ef ar daith eithriadol, gan wasanaethu ar y ddau ochr cyn ffeindio ei hun yn Nhir Neb ar ei ben ei hun. Dyw Albert, a arhosodd ar fferm ei rieni yn Nyfnaint, methu anghofio Joey. Er nad yw’n ddigon hen i ymrestru, mae’n mynd ar berwyl peryglus i ddod o hyd i Joey a dod ag ef adref.