Beth wyt ti'n edrych am?
Opera | Chwarae Opera YN FYW
Dyddiad(au)
30 Med 2023
Amseroedd
15:30 - 16:45
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Teithiwch drwy ddyfnderoedd y gofod ar daith gerddorol arallfydol
Profwch weithgarwch estron, dysgwch ffeithiau difyr, a chwyrlïwch o gwmpas fyd anhygoel opera a cherddoriaeth glasurol gyda sioe ryngweithiol ac addysgiadol Opera Cenedlaethol Cymru ar thema’r gofod sy’n addas i bob oed.
Bydd Tom Redmond yn arwain yr antur ac yn eich ysgogi i ganu, dawnsio a chlapio i rai o’n hoff ddarnau o’r llwyfan a sgrin.
Ni fyddai profiad teuluol WNO yn gyflawn heb weithgareddau cyntedd am ddim. Gallwch weddnewid i gymeriad estron yn ein gorsaf baentio wyneb, mwynhau helfa drysor ryngalaethol, a mwy o 1.30pm.