Beth wyt ti'n edrych am?
Wicked
Dyddiad(au)
24 Hyd 2024 - 23 Tach 2024
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Mae Wicked, un o’r sioeau cerdd mwyaf llwyddiannus erioed, wedi bod yn swyno cynulleidfaoedd ledled y byd ers dau ddegawd.
Yn seiliedig ar y nofel lwyddiannus gan Gregory Maguire, mae Wicked yn dychmygu hanes hudolus a phosibiliadau yn y dyfodol i fywydau cymeriadau poblogaidd L. Frank Baum o ‘The Wonderful Wizard of Oz’, ac yn datgelu’r penderfyniadau a’r digwyddiadau sy’n llunio ffawd dwy ffrind prifysgol annhebygol ar eu taith i fod yn Glinda The Good a’r Wicked Witch of the West.
Mae’r sioe gerdd arobryn hon yn hedfan yn ôl i Gaerdydd gyda’r hud sy’n gwneud y cynhyrchiad nodedig hwn yn brofiad mor gofiadwy na ddylid ei golli.