Neidio i'r prif gynnwys

Datganiad Artistiaid Cyswllt WNO

Dyddiad(au)

06 Gorff 2025

Lleoliad

Tabernacl, The Ais, Caerdydd, CF10 1AJ

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Mae Rhaglen Artistiaid Cyswllt Opera Cenedlaethol Cymru yn cynnig mentora proffesiynol a chyfleoedd perfformio i’r genhedlaeth nesaf o berfformwyr, sydd yn aml yn cynnig sbringfwrdd ar gyfer gyrfa ryngwladol.

Yn nodi hanner ffordd yn eu hyfforddiant blwyddyn o hyd gyda’r Cwmni, mae’r sopranos Eiry Price ac Erin Rossington, ochr yn ochr â’r bas William Stevens, yn cyflwyno prynhawn o’u hoff gerddoriaeth mewn datganiad dathliadol ac arbennig gyda’r pianydd a’r cyfeilydd clodwiw James Baillieu yn Dabernacl yng Nghaerdydd.