Neidio i'r prif gynnwys

Zara McFarlane: Yn dathlu Sarah Vaughan

Dyddiad(au)

14 Maw 2025

Amseroedd

19:30 - 21:30

Lleoliad

Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Heol y Gogledd, Caerdydd CF10 3ER

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Mae’r gantores-gyfansoddwraig wobrwyedig Zara McFarlane yn adnabyddus am ei chyfuniadau sain unigryw o jazz, reggae, gwerin a nu-soul. Mae’n gwthio ffiniau cerddoriaeth a ddylanwadir gan jazz trwy archwilio traddodiadau gwerin ac ysbrydol mamwlad ei chyndadau, Jamaica. Mae Zara yn talu teyrnged i’r hyfryd Sarah Vaughan ym mlwyddyn ei chanmlwyddiant gyda cherddoriaeth o’i halbwm diweddaraf ‘Sweet Whispers: Celebrating Sarah Vaughan’.

Mae’r enillydd gwobr lleisydd y flwyddyn Jazz FM ar ddau achlysur wedi perfformio yn The Jazz Cafe Ronnie Scott, Neuadd Frenhinol Albert, Love Supreme (UK), SXSW (UD) a llawer mwy, a gyda cherddorion clodwiw sy’n cynnwys High Masekela, Gregory Porter ac Ezra Collective.

£10-£20