Neidio i'r prif gynnwys

BETH ALLECH CHI EI ENNILL?

Wrth i dymor y Cardiff Devils a Rygbi Caerdydd ddod i ben, rydym wedi bod yn edrych yn ôl ar yr adeg pan gawson ni gyfle i siarad gyda’r chwaraewyr a dysgu mwy am eu hoff lefydd yn y ddinas. A chan ddefnyddio eu hargymhellion nhw, rydym wedi creu gwobr gystadleuaeth gyffrous sy’n cyfleu ysbryd a chyffro Caerdydd.

Rhaid defnyddio’r wobr ar **Ddydd Gwener 31 Mai a Dydd Sadwrn 1 Mehefin 2024**.

DYDD GWENER

NOSON FOETHUS YNG NGWESTY’R CLAYTON

Cychwynnwch eich antur yng Nghaerdydd drwy aros yng nghanol y ddinas yng Ngwesty’r Clayton lle gallwch gael eich ystafell am 1pm a mwynhau brecwast y diwrnod wedyn. Yn enwog am ei gwasanaeth arbennig, bydd y gwesty, ar Heol Eglwys Fair, yn cynnig y lleoliad perffaith i’r enillwyr brofi’r ddinas, a pharatoi ar gyfer diwrnod bythgofiadwy yng Nghaerdydd!

IVY ASIA DRAGON EXPERIENCE GYDA SIAMPÊN

Gorffennwch eich diwrnod gyda phrofiad coginiol yn Ivy Asia. Sipiwch siampên oer a mwynhau’r Dragon Experience i ddau, gwledd o flasau egsotig a phrydau gourmet mewn lleoliad moethus.

TOCYNNAU PREMIWM I VITALITY BLAST 2024

Byddwch yn barod i fwynhau Vitality Blast, fformat mwyaf cyffrous y gêm, gyda’r gêm griced Morgannwg yn erbyn Surrey yng Ngerddi Sophia. Dechreuwch adloniant eich noson gyda diod am ddim yn ardal y Teras lle gallwch fwynhau’r awyrgylch T20 cyffrous mewn lleoliad hamddenol, unigryw ac anffurfiol sy’n cynnig golygfeydd godidog o’r criced.

DYDD SADWRN

PROFIAD SIOPA A THALEB JOHN LEWIS

Beth yw antur heb rywfaint o siopa? Rydyn ni’n rhoi taleb John Lewis gwerth £50 i chi ei wario ar unrhyw beth o’r dillad diweddaraf i offer technoleg neu addurniadau’r cartref. Byddwch hefyd yn cael eich pampro gyda phrofiad steilio personol a gwydraid o siampên.  Byddwch yn barod i siopa yn un o brif gyrchfannau manwerthu Caerdydd.

ARCHWILIO CASTELL CAERDYDD

Cyn i chi orffen eich gwyliau yn y ddinas, mwynhewch ychydig o hanes y ddinas ac ymweld â Chastell Caerdydd, un o atyniadau treftadaeth mwyaf blaenllaw Cymru. Gyda’ch tocynnau, byddwch yn gallu archwilio’r fflatiau Gothig Fictoraidd moethus, darganfod muriau Rhufeinig hynafol y Castell, a dringo i ben y Tŵr canoloesol am olygfa syfrdanol o’r ddinas.

SUT I GYMRYD RHAN

Llenwch eich manylion ar y ffurflen isod i gael y cyfle i ennill!

TELERAU AC AMODAU

CROESO CAERDYDD

Telerau ac Amodau’r Raffl

 

Sut i Gymryd Rhan?

  • Nid oes rhaid prynu dim: Mae modd cymryd rhan yn y gystadleuaeth yn rhad ac am ddim ac nid oes angen prynu dim.
  • Dyddiad dechrau: Dydd Mercher 15 Ebrill 2024. Dyddiad cau: 23:59 GMT ddydd Mercher 13 Mai 2024.
  • Er mwyn cymryd rhan yn y raffl, rhaid i ymgeiswyr roi eu manylion drwy’r wefan.
  • Ni chaiff ceisiadau a ddaw i law ar ôl y diwrnod cau eu derbyn.
  • Nid yw Croeso Caerdydd yn derbyn cyfrifoldeb am geisiadau a gollwyd, er enghraifft, o ganlyniad i unrhyw fethiant offer, nam technegol, rhwydwaith, gweinydd, caledwedd cyfrifiadurol neu fethiant meddalwedd o unrhyw fath.

 

Preifatrwydd Data

  • Bydd gwybodaeth a ddarperir gan ymgeiswyr yn cael ei defnyddio at ddibenion gweinyddu’r raffl yn unig.
  • Drwy gystadlu, rydych yn cytuno y gall unrhyw wybodaeth bersonol a ddarperir gennych gyda’ch cais gael ei chadw a’i defnyddio at ddibenion gweinyddu’r gystadleuaeth.
  • Bydd cyfle i optio i mewn i dderbyn deunyddiau hyrwyddo ychwanegol ar gael adeg mynediad.

 

Cymhwysedd

  • Terfyn Mynediad: Dim ond unwaith y caiff pob person gofrestru cais.
  • Dim ond preswylwyr y DU sy’n 18 oed a hŷn gaiff gofrestru.
  • Mae’n rhaid i’r enillydd fod ar gael i adennill y wobr: Ddydd Gwener 31 Mai – ddydd Sadwrn 1 Mehefin 2024.
  • Mae Croeso Caerdydd yn cadw’r holl hawliau i’ch gwahardd os yw eich ymddygiad yn groes i ysbryd neu fwriad y raffl.
  • Oni nodir yn wahanol, nid yw ein raffl wobrau yn agored i weithwyr tîm Croeso Caerdydd yng Nghyngor Caerdydd, eu teuluoedd, asiantau nac unrhyw drydydd parti sy’n uniongyrchol gysylltiedig â gweinyddu’r raffl.

 

Dewis Enillydd

  • Bydd yr enillydd lwcus yn cael ei ddewis ar hap o’r holl geisiadau dilys gan gyfranogwyr – a bydd yn cael gwybod ddydd Iau 11 Mai 2024, dros y ffôn ac e-bost.
  • Gwneir pob ymdrech resymol i gysylltu â’r enillydd. Rhaid i’r enillydd hawlio ei wobr erbyn 17:00 GMT ddydd Mercher 15 Mai 2024, neu bydd enillydd arall yn cael ei ddewis.
  • Bydd y cadarnhad a’r amserlen yn cael eu hanfon at yr enillydd heb fod yn hwyrach na 10 cyn yr ymweliad/digwyddiad.
  • Bydd cyfenw a lleoliad yr enillydd ar gael trwy gais e-bost am un mis ar ôl i’r gystadleuaeth ddod i ben.
  • Ni ellir cyfnewid na throsglwyddo’r wobr ac ni chynigir arian parod yn ei lle.
  • Nid yw teithio a thrafnidiaeth wedi’u cynnwys fel rhan o’r wobr. Rhaid i’r enillydd drefnu ei daith ei hun i ac o Gaerdydd.
  • Ceidw Croeso Caerdydd yr hawl i newid y wobr am wobr arall o werth cyfartal neu uwch os oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth yr Hyrwyddwr mae angen gwneud hynny.

 

Gwybodaeth Ychwanegol am y Gystadleuaeth

  • Ceidw Croeso Caerdydd yr hawl i ddiddymu, canslo, gohirio neu ddiwygio’r hyrwyddiad pe bai angen gwneud hynny.
  • Atebolrwydd: Nid yw Croeso Caerdydd yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw ddifrod, colled, anaf neu siom a ddioddefir gan ymgeiswyr o ganlyniad i gymryd rhan yn y gystadleuaeth.
  • Cyfraith Berthnasol: Mae telerau ac amodau’r raffl hon yn ddarostyngedig i gyfraith Lloegr.
  • Drwy gyflwyno un neu ragor o geisiadau rydych yn cytuno i ymrwymo i’r Telerau ac Amodau hyn. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â hello@visitcardiff.com

 

Manylion yr hyrwyddwr:  Croeso Caerdydd sy’n hyrwyddo’r gystadleuaeth sydd wedi’i leoli yn Neuadd y Sir, Glanfa’r Iwerydd, Caerdydd CF10 4UW.

Gwesti Clayton
  • Arosiad o 1 noson, mewn ystafell dwbl neu ystafell gyda dau wely sengl.
  • Cofrestru’n gynnar o 1pm ar ddiwrnod cyrraedd Dydd Gwener 31ain Mai 2024.
  • Brecwast i 2 berson wedi’i gynnwys ar ddiwrnod gadael Dydd Sadwrn 1af Mehefin 2024.
Criced Morgannwg - Vitality Blast
  • 2 docyn diwrnod gêm Blast Vitality ar gyfer Morgannwg yn erbyn Surrey 31ain Mai 2024.
  • Mynediad i ardal Terrace premiwm.
  • Un diod gwrtais y person ar ôl cyrraedd (cwrw tŷ, gwin a diod meddal).
Ivy Asia
  • Bwydlen profiad y Ddraig ar gyfer dau berson ar Ddydd Gwener 31ain Mai 2024.
  • Bwrdd am 2pm, bydd y bwrdd yn cael ei gadw am 10 munud.
  • 1 gwydr o siampên neu ddiodydd meddal y person ar ôl cyrraedd.
John Lewis
  • Taleb gwerth £50 (telerau ac amodau talebau anrheg yma).
  • Profiad steilio personol Dydd Sadwrn 1af Mehefin 2024 (bydd amseroedd cyrraedd yn cael eu cadarnhau).
Castell Caerdydd
  • 2 docyn mynediad cyffredinol.
  • Mynediad rhwng 10am a 4pm ar Ddydd Sadwrn 1af Mehefin 2024.
  • Bydd tocynnau’n cael eu hanfon trwy e-bost ymlaen llaw a rhaid dangos codau QR wrth gyrraedd.

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar gyfer e-Gylchlythyr Croeso Caerdydd heddiw i gael newyddion cyffrous, digwyddiadau, cynigion arbennig, pethau i’w gwneud a mwy gan dîm Croeso Caerdydd.