Amgueddfa Caerdydd yw’r amgueddfa gyntaf lle caiff pobl Caerdydd ac ymwelwyr ddysgu stori’r ddinas trwy lygaid y rhai sy’n ei hadnabod orau – ei phobl.
Y lle perffaith i gychwyn eich ymweliad i Gaerdydd!
Mae’r amgueddfa’n adrodd hanes trawsnewid Caerdydd o dref farchnad fechan yn y 1300au i un o borthladdoedd mwyaf y byd yn y 1900au i’r brifddinas cŵl cosmopolitan rydym yn adnabod heddiw. Gyda gweithgareddau ar gyfer pob oedran, mae yn un o adeiladau mwyaf hanesyddol Caerdydd, yr Hen Lyfrgell, yng nghalon canol y ddinas ac mae’r mynediad am ddim.
Mae Amgueddfa Caerdydd yn bwynt cychwyn gwych ar gyfer unrhyw ymweliad i Gaerdydd ac mae’n rhoi cyflwyniad i hanes y ddinas trwy arddangosfeydd deniadol, rhyngweithiol. Mae’n defnyddio storïau’r bobl sydd wedi byw a gweithio yn y ddinas dros y canrifoedd diwethaf i ddod a hanes yn fyw.
Mae’r amgueddfa yn cynnal digwyddiad llawn a rhaglen arddangosfa dros dro – cewch fanylion ar ein gwefan neu trwy ein ffonio.
GWYBODAETH I YMWELWYR
Mae mynediad AM DDIM – codir taliadau am ymweliadau ysgolion / grwpiau addysg a rhai digwyddiadau.
- Bach £5
- Canolig £8
- Mawr £10
(Ar gael 10.00 – 15.30)
CYRRAEDD AMGUEDDFA CAERDYDD
Ar Fws
Yr arosfannau bysiau agosaf yw Heol y Porth neu Kingsway.
Ar y Trên
Y gorsafoedd trên agosaf yw Caerdydd Canolog neu Caerdydd Stryd y Frenhines.
CYSYLLTWCH Â AMGUEDDFA CAERDYDD
Ffôn
029 2034 6214
E-bost
storicaerdydd@caerdydd.gov.uk
Cyfeiriad
Yr Hen Lyfrgell, Yr Aes, CF10 1BH