Neidio i'r prif gynnwys

AMGUEDDFA GENEDLAETHOL CAERDYDD

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn gartref i gasgliadau celf cenedlaethol, hanes natur a daeareg Cymru, ac arddangosfeydd dros dro.

ORIAU AGOR

Llun

AR GAU

Maw - Sul

10:00 - 17:00

Orielau'n cau am 16:45

Ar agor ddyddiau Llun gŵyl y banc

Overview

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd wrth galon canolfan ddinesig hardd Caerdydd ac mae’n gartref i gelf o safon ryngwladol a hanes naturiol, gan gynnwys casgliadau celf cenedlaethol, hanes naturiol a daeareg, ynghyd â’r prif arddangosfeydd teithiol a rhai dros dro.

Os ydych am sefyll a syllu, mae digon i blesio’r llygad – o baentiadau Argraffiadol i ddinosoriaid enfawr. Er mwyn mynd i chwilio gallwch fachu amrywiaeth o lwybrau’r oriel i’ch tywys o amgylch yr Amgueddfa.    Gyda rhaglen brysur o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae gennym rywbeth i synnu pawb, beth bynnag eich diddordeb – ac mae mynediad am ddim!

GWYBODAETH I YMWELWYR

Tocynnau a Phrisiau

Mae mynediad AM DDIM!

Efallai y bydd taliadau am rai digwyddiadau ac arddangosfeydd arbennig.

Bwyd a Diod

Yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, rydym yn ymfalchïo mewn darparu bwyd o ansawdd da sy’n cael ei goginio ar y safle gan ddefnyddio cynhyrchion Cymreig lleol pryd bynnag y bo hynny’n bosibl.

Mae Bwyty Oriel, sydd wedi’i leoli ar lawr isaf yr Amgueddfa, yn gweini cinio poeth ac oer rhwng 12pm a 2.30pm, amrywiaeth o frechdanau a baguettes, cawl cartref, cacennau a diodydd poeth ac oer. Mae’r ardal hon yn addas i deuluoedd ac yn darparu blychau rhyngosod i blant, dognau plant dethol o brif brydau bwyd a phrydau bwyd penodol i blant yn ystod penwythnosau a gwyliau ysgol.

Mae’r Siop Goffi wedi’i lleoli yn y Brif Neuadd ac mae’n lle gwych i fwynhau mawredd yr adeilad ohono. Yma rydym yn gweini amrywiaeth o gacennau cartref a brechdanau a hefyd diodydd poeth ac oer.

Siopa

Mae’r siop yn llawn anrhegion cyffrous ac mae ganddi rywbeth at ddant pawb. P’un a ydych chi’n ymwelydd â’r amgueddfa neu ddim ond yma ar gyfer y siopa, cewch eich ysbrydoli gan ein syniadau anrhegion unigryw. Mae gennym ni amrywiaeth o deganau arian poced, cofroddion wedi’u brandio ac anrhegion hynod i’w hysbrydoli a’u haddysgu.

Hygyrchedd

Mae cilfachau parcio dynodedig ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas y tu ôl i’r Maes Parcio Ymwelwyr, mynediad trwy Museum Avenue. Mae mynediad i gadeiriau olwyn i bob oriel.

CYRRAEDD AMGUEDDFA GENEDLAETHOL CAERDYDD

Ar y Ffordd

Gadewch yr M4 ar gyffordd 32. Ar gyfer satnav, defnyddiwch y cod post CF10 3NP.

Parcio

Mae Maes Parcio Ymwelwyr y tu ôl i'r Amgueddfa, oddi ar Museum Avenue. Prynu tocyn allanfa o Siop yr Amgueddfa - £ 6.50. Mae parcio am ddim i ddeiliaid bathodyn anabl. Ewch â'ch bathodyn glas i siop yr Amgueddfa wrth brynu'ch tocyn. Mae cilfachau parcio i'r anabl ar y ffordd hefyd ar gael ym mlaen yr Amgueddfa ar Ffordd Gerddi Gorsedd.

Ar Fws

O Orsaf Fysiau Ganolog Caerdydd ewch ar fws rhif 53 neu 85 i'r Amgueddfa. O Fae Caerdydd cymerwch fws Car y Bae rhif 6. Gallwch gynllunio'ch taith gan ddefnyddio gwefan Traveline Cymru neu trwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

Ar y Trên

Yr orsaf reilffordd agosaf yw Gorsaf Cathays, tua 5 munud ar droed o'r Amgueddfa. Am wybodaeth teithio ar drên ewch i wefan National Rail Enquiries.

CYSYLLTWCH Â AMGUEDDFA GENEDLAETHOL CAERDYDD

Ffôn

030 0111 2333

E-bost

cardiff@museumwales.ac.uk

Cyfeiriad

Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NP


BETH SY' MLAEN?