Mae Gwesty’r Angel yn eiddo Fictoraidd coeth a mawreddog gyda 102 o ystafelloedd gwely en-suite traddodiadol a naw ystafell gyfarfod a digwyddiadau. Gyda nodweddion trawiadol y cyfnod a lleoliad canolog heb ei ail, y gwesty yw’r lleoliad perffaith ar gyfer eich digwyddiad neu ddihangfa nesaf.
Wedi’i leoli yn y ddinas brysur gyferbyn â Chastell Caerdydd, nid nepell o Stadiwm Principality, mae’r gwesty ynghanol caffis, bariau ac arcedau siopa Fictoraidd yn ogystal â gerddi gwyrdd Parc Bute.
Ystafelloedd
Mae ein heiddo hardd a hanesyddol yn gartref i 102 o ystafelloedd en-suite, ac mae i bob un asiad rhwng dodrefn clasurol a nodweddion gwreiddiol y cyfnod. Mae ein hystafelloedd yng Ngwesty’r Angel yn cynnal traddodiadau a chyfaredd y gwesty tirnod eiconig gyda nifer o’n hystafelloedd yn mwynhau olygfeydd dros Gastell Caerdydd, Parc Bute neu Stadiwm y Principality. Pa ystafell bynnag a archebwch, gallwch fwynhau Wi-Fi a Theledu Freeview am ddim wrth i chi wneud eich hun yn gysurus.
Ystafelloedd Safonol
Mae ein Hystafelloedd Safonol ar gael gyda gwelyau sengl, pâr neu ddwbl ac mae pob un yn cynnwys ystafell ymolchi en-suite. Os byddwch yn teithio at ddibenion busnes, manteisiwch ar ein desg weithio, cadair a Wi-Fi am ddim, cyn ymlacio gyda’n setiau teledu Freeview sgrin fflat.
Ystafelloedd Deluxe
Mae ein hystafelloedd Deluxe ar gael gyda gwelyau dwbl neu bâr ac mae pob un yn cynnwys y dillad gwely gorau, ystafell ymolchi en-suite, desg weithio, teledu sgrin fflat a chyfleusterau gwneud coffi. Yn debyg i’n hystafelloedd safonol ond â moethusrwydd ychwanegol ar ffurf gynau gwisgo a sliperi fflwfflyd, mae rhai o’n Hystafelloedd Deluxe hefyd yn cynnig golygfeydd trawiadol o Gastell Caerdydd.
Ystafelloedd Cyfres
Mae ein Hystafelloedd Cyfres helaeth yn berffaith i unrhyw un sydd eisiau ychydig yn fwy o le, gyda lolfa a lle bwyta ar wahân yn ychwanegol i’r prif ystafell wely a’r ystafell ymolchi en-suite. Yn ogystal â theledu sgrin fflat, cadeiriau lolfa, man gwaith a chyfleusterau gwneud coffi, gall gwesteion ein Hystafelloedd Cyfres hefyd fwynhau gynau gwisgo a sliperi fflwfflyd a dwr mwynol am ddim.
Bar a bwyty’r Castell
Gall gwesteion a phobl leol alw draw ym Mwyty’r Castell hyfryd i fwynhau bwydlen o seigiau tymhorol sy’n newid yn gyson, wedi’u creu gan ddefnyddio cynhwysion o ansawdd uchel, sy’n amlygu’r cynnyrch lleol gorau. Hefyd gall ciniawyr fwynhau ein detholiad o winoedd gwych a fewnforir yn unswydd ar ein cyfer i ategu eu cinio prynhawn, te prynhawn neu ginio nos yn berffaith.
Ffôn
029 2064 9200
E-bost
reservations@angelhotelcardiffcity.co.uk
Cyfeiriad
Stryd y Castell, Caerdydd CF10 1SZ