Chwiliwch brifddinas Cymru Caerdydd a’i hamgylchoedd hardd gyda char llogi Avis. Mae gan Avis leoliadau rhentu ceir ym Maes Awyr Caerdydd a chanol y ddinas, felly p’un a ydych yn ymweld am fusnes neu bleser, gallwch gasglu eich car llogi lle bynnag y mae’n addas i chi.
Ym Maes Awyr Caerdydd, mae man llogi ceir Avis wedi’i leoli nid nepell o adeilad y derfynfa. Gadewch y Neuadd Gyrraedd, trowch i’r dde a chroeswch y ffordd i’r Maes Parcio Arhosiad Byr. Fe welwch fod ein swyddfa llogi ceir wrth y fynedfa i’r maes parcio. Os byddwch yn dewis rhentu car o’r ddinas, fe welwch ni yng nghanol dinas Caerdydd ar Stryd Tudor, yn agos i’r orsaf drenau.