Mae Bar 44, sy’n boblogaidd iawn ‘da’r trigolion lleol, yn far tapas yng Nghanol Dinas Caerdydd, Penarth a’r Bont-faen. Yn fusnes teuluol, fe syrthiodd dau frawd mewn cariad â bwyd, diod a diwylliant Sbaen ac roedden nhw am ddod â blas ohono yn ôl i Gymru! Mae’r bwyty’n trawsnewid ar wahanol adegau o’r dydd – coffi, te a chacennau cartref sy’n teyrnasu yn y bore, mae tapas ar gael o ganol dydd ac wrth i’r noson fynd yn ei blaen mae’n troi’n lolfa goctels glyd a bywiog.
Lleoliad: 14 Windsor Rd, CF64 1JH