Mae Bar a Chegin Laguna yn fwyty annibynnol enwog sy’n cynnig bwyd Prydeinig â blas Cymreig. Gan gyfuno’r cynnyrch lleol gorau, mae ein cogyddion yn dylunio seigiau tymhorol fydd yn dod â dŵr i’ch dannedd.
Wedi’i leoli yng Ngwesty’r Park Plaza, mae bwyty Laguna yn gyfuniad eclectig o brydau modern o Brydain. Mae’n cynnig gwasanaeth drwy’r dydd, ar gyfer cinio, prydau cyn theatr, bwyd A La Carte, cinio dydd Sul a Bwydlen A La Carte Fegan. Mae ein bwydlenni’n newid bob dydd er mwyn sicrhau mai dim ond y cynhwysion mwyaf ffres a ddefnyddir ac mae’n fan delfrydol i fwynhau bwyd gwych, gyda wal win eiconig a chegin agored.
Ynghyd â’n bwydlenni helaeth, mae gan far bywiog Laguna hefyd winoedd cain, coctels egsotig a chasgliad o gwrw a ddewiswyd yn ofalus. Dyma gyfle ardderchog i fwynhau awyrgylch soffistigedig gyda byrddau isel, cadeiriau ffynci a bythau personol. Pan fydd yr haul yn tywynnu, mae ein teras deiliog yn cynnig encil dawel ac yn siŵr o gadw sgyrsiau a diodydd i lifo.
Gweinir bob dydd o 12:00pm tan 5:30pm, ac os ydych chi am eich sbwylio’ch hun hyd yn oed mwy, gallwch ychwanegu gwydraid o ‘ Tsiampên Ayala at eich Te Prynhawn.
Argymhellir eich bod yn cadw lle o flaen llaw, a rhaid archebu’r Te Prynhawn i Wŷr Bonheddig 24 awr o flaen llaw.
Te Prynhawn
Yn ogystal â’n dewis o fwydlenni, mae ein te prynhawn yn amrywio o’r traddodiadol i’r sawrus, felly boed yn gloddesta ar sgons hyfryd a hufen neu ar y byrgyr cig carw sy’n rhan o’n Te Prynhawn i Wŷr Bonheddig, mae rhywbeth yma i bawb. Gall ein te prynhawn traddodiadol hefyd gael ei wneud yn addas ar gyfer feganiaid a heb glwten.
Gweinir bob dydd o 12:00pm tan 5:30pm, ac os ydych chi am eich sbwylio’ch hun hyd yn oed mwy, gallwch ychwanegu gwydraid o ‘ Tsiampên Ayala at eich Te Prynhawn.
Argymhellir eich bod yn cadw lle o flaen llaw, a rhaid archebu’r Te Prynhawn i Wŷr Bonheddig 24 awr o flaen llaw.
Ffôn
02920 111 103
E-bost
lagunarestaurant@parkplazacardiff.com
Cyfeiriad
Park Plaza, Heol y Brodyr Llwydion, Caerdydd, CF10 3AL