Neidio i'r prif gynnwys

BIG MOOSE COFFEE CO

Siop goffi gyda chalon yw Bigmoose Coffee co, sydd mewn stryd oddi ar Heol y Frenhines yng Nghaerdydd, ac maen nhw wedi denu dilynwyr ffyddlon dros y blynyddoedd

OPENING TIMES

Monday - Saturday

09:00 - 15:30

Sunday

10:00 - 15:30

Mae Bigmoose yn falch o fod yn Rhif Un ar restr siopau coffi Caerdydd Tripadvisor, ac mae gennym  gwsmeriaid eclectig a hynod amrywiol yr ydym yn falch ohonynt.

Mae gennym dîm o bobl garedig, tosturiol, bendigedig sy’n poeni am ei gilydd a’n gwesteion. Wrth i chi fynd i mewn i’n siop byddwch yn teimlo’r cynhesrwydd hwn gan bob aelod o’r tîm, bydd eu gwenau mawr yno i’ch cyfarch pa un a ydych mewn grŵp neu ar eich pen eich hun. Byddem wrth ein boddau’n eich croesawu.

Os ydych chi’n taro i fewn am frecwast, brecinio neu ginio, rydyn ni’n gweini ystod eang o brydau blasus, a gellir gwneud pob un ohonynt yn ddi-glwten a/neu figan.  Neu os ydych chi ond yn taro i mewn am goffi yna mae’n bosib y bydd un o’n cacennau ffres neu frownis yn mynd â’ch ffansi (mae hefyd opsiynau figan a di-g ar gael).

Yn ogystal â hyn rydym hefyd wrth ein boddau’n cynnal digwyddiadau.  I ni mae’n fraint cael bod yn rhan o achlysuron mor bwysig ym mywydau pobl.  Mae gweld y llawenydd yn wynebau ein gwesteion  wrth iddyn nhw ddiddanu, dathlu a mwynhau eu noson gyda’u teulu a’u ffrindiau yn anhygoel a byddem wrth ein boddau yn creu noson i’w chofio i chi hefyd!

Mae pob digwyddiad yn unigryw ac wedi ei deilwra i’r unigolyn a’i anghenion, o’r addurniadau, y llawr dawnsio a’r gerddoriaeth i fwyd, cacennau a’r arlwy diodydd, mae’r arlwy i gyd i’ch siwtio chi!

DIRECTIONS