Mae’n cael ei alw’n Bloc gan ei fod wedi ei leoli mewn hen floc toiledau a adnewyddwyd, pa mor cŵl ydy hynny? Mae’r décor yn chwaethus ac yn glyd, dyma’r lle perffaith i oedi ar eich taith gerdded. Hefyd, mae eu bwyty Ffrengig dros dro ‘Paysan’ yn gweini prydau blasus a phlatiau bach. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn Bloc ar Twitter a Facebook, maen nhw’n aml yn cynnal digwyddiadau crefft gwych.
Lleoliad: Parc Fictoria