Wedi’i leoli ym mwrdeistref ogleddol Llanisien, dim ond 15 munud o ganol y ddinas, does dim esgus i beidio â phiciad draw, beth bynnag fo’r tywydd, am ymarfer corff!
Mae gan y parc arena trampolîn gyda dros 50 o drampolinau rhyng-gysylltiedig, ond mae ymweliad â BUZZ Parks yn cynnig cymaint mwy…
Wrth i chi gerdded drwy’r drws, byddwch yn cael eich cyfarch gan yr ardal weithgareddau aer fwyaf amrywiol yn y wlad! Yn bron i 10,000 troedfedd sgwâr, mae ein strwythur enfawr yn llawn gweithgareddau a heriau a fydd yn eich cael chi a’r teulu’n chwerthin yn braf.
Llithrwch lawr sleid 22 troedfedd, cwblhau ein cwrs rhwystrau 200 troedfedd, ymladd ar ein trawstiau brwydr, neu ewch i uchderau newydd ar ein wal ddringo.
Mae ein caffi ar y safle yn cynnig hafan i rieni, sydd â golygfa dda o’r parc. Mae’r caffi yn gweini dewis gwych o ddiodydd poeth ac oer, cacennau a danteithion melys, brechdanau a phaninis, ynghyd â phitsas a chŵn poeth i’r rhai sydd angen ailwefru yn barod i fownsio mwy. Mae WiFi am ddim ar gael drwy’r parc hefyd.
Mae sesiynau’n dechrau ar yr awr, ac mae sesiynau bownsio 1 a 2 awr ar gael. Ewch i nôl eich sanau gweithgaredd o’n desg Dderbynfa, gwyliwch ein fideo diogelwch, a bwrw ymlaen gyda’r mwyaf o hwyl y byddwch yn ei gael drwy’r wythnos!
Mae BUZZ Parks yn cynnig hwyl i’r teulu cyfan, am bris gwych.
BUZZ Cardiff, Ty Glas Avenue, Llanishen Cardiff CF14 5DX
CONTACT
Ffôn
029 2009 9899