Ni yw cartref hwyl a sbri dan do! Canolfan y Ddraig Goch ym Mae Caerdydd yw lleoliad adloniant gorau’r Ddinas, gyda bwyd blasus a gweithgareddau gwych i gyd yn yr un man. A dyw hi byth yn bwrw yma chwaith!
Fe welwch sinema ODEON fodern, sy’n gartref i unig sgrîn IMAX ddigidol de Cymru, 26 lôn Bowlio Deg ag ardal arcêd arbennig, Casino Grosvenor 24 awr gyda lolfa chwaraeon foethus, a Simply Gym 20,000 tr. sgwâr o faint!
Ac mae yma lond lle o fwyd fydd at ddant pawb! Cadwch lygad allan am rai o enwau mwyaf y byd bwyd, gan gynnwys Five Guys a Bella Italia, a rhai o’r bwytai annibynnol mwyaf poblogaidd yng Nghaerdydd gan gynnwys Zaika, Volcano, Spice Route, Everytime a Easythali.
Siawns y gwelwch chi seren neu ddwy hefyd! Mae’r Ganolfan hefyd yn gartref i’r darlledwyr chwedlonol Capital FM a Heart FM.
Mae Canolfan y Ddraig Goch ar agor 7 diwrnod yr wythnos (ac eithrio Dydd Nadolig). Gall cwsmeriaid hefyd fanteisio ar chwe awr o barcio y tu blaen i’r adeilad drwy wario o leiaf £6.
GWYBODAETH I YMWELWYR:
BWYTA AC YFED
- Five Guys
- Spice Route
- Zaika
- Volcano
- Roots
GWYLIO
- Odeon – IMAX
CHWARAE
- Hollywood Bowl
- Simply Gym
GWRANDO
- Capital FM
Ffôn
029 2025 6261
E-bost
info@thereddragoncentre.co.uk
Cyfeiriad
Hemingway Road, Atlantic Wharf, CF10 4JY