Neidio i'r prif gynnwys

TEITHIAU CWCH CAERDYDD

All aboard for Cardiff Boat Tours! Explore Cardiff in a new and exciting way, with a ride on the 90 seater water bus, Princess Katherine.

OPENING HOURS

Mon-Fri

10:00-17:00

Sat-Sun

10:00-17:00

Mae’r busnes teuluol lleol Cardiff Boat Tours Ltd yn gweithredu’r Princess Katharine, tacsi dŵr sydd wedi’i drwyddedu i gario hyd at 90 o deithwyr.   Mae’r Princess Katharine yn cynnig y cyfle perffaith i ymwelwyr gael profiad o hanes a golygfeydd y Ddinas a’r Bae wrth deithio rhwng y ddau.

Mae gennym sylwebaeth wedi’i recordio, sy’n rhoi gwybodaeth ddiddorol iawn am hanes yr ardal, adeiladau ar hyd y ffordd, y morglawdd a’r bywyd gwyllt yn y Bae a’r afon. Mae mynd ar gwch yn brofiad cyffrous i bawb o bob oedran ac yn gyfle gwych i gael persbectif gwahanol a llawer o luniau o’r dŵr.

Mae’r criw, sydd bob amser yn ddau Feistr Cychod profiadol, yn frwd dros y cwch ac mae ganddynt wybodaeth helaeth am yr ardal. Mae’r cwch yn gynnes yn y gaeaf ac yn oer yn yr haf, ac mae yna doiled i’r teithwyr.

Enillodd y Princess Katharine Dystysgrif Rhagoriaeth Trip Advisor i Cardiff Boat Tours yn 2016 ac mae yn y 23ain safle allan o 148 o bethau i’w gwneud yng Nghaerdydd.
Ewch ar y cwch ym Mae Caerdydd neu ym Mharc Bute yng nghanol y ddinas ac, ar ddiwedd diwrnod gwych o grwydro, ymlaciwch ar eich taith yn ôl.

Mae Bae Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o brofiadau ar y dŵr, felly ewch ar daith i’w chofio yng Nghwch Caerdydd wrth fwynhau’r awyrgylch a’r golygfeydd prydferth. Os nad ydych yn gyfarwydd â’r ardal, ffoniwch ni a byddwn yn hapus i roi digon o gyngor i chi ar y lleoedd gorau i fynd a phethau gwych i’w gwneud.

Ydych chi eisiau cael digwyddiad arbennig, parti neu briodas yn y Bae? Wedi ymrwymo i roi’r profiad gorau posibl i deithwyr ar yr afon p’un ai a ydynt yn ymweld â Chaerdydd am y tro cyntaf neu’n gymudwyr dyddiol, mae Cardiff Boat Tours yn cynnig amgylchedd sy’n dda i deuluoedd ac yn groesawus i bob teithiwr.    Cofiwch ei fod yn bosibl yr effeithir ar y gwasanaeth gan amodau tywydd eithafol.

DEPARTURE TIMES:

Cardiff Bay to City Centre (Bute Park)
  • 10:00
  • 11:00
  • 12:00
  • 13:00
  • 14:00
  • 15:00
  • 16:00

Later times can be pre-booked in advance, contact to enquire for prices.

All times may be subject to weather conditions and Bute Park closing hours.

City Centre (Bute Park) to Cardiff Bay
  • 10:30
  • 11:30
  • 12:30
  • 13:30
  • 14:30
  • 15:30
  • 16:30

Later times can be pre-booked in advance, contact to enquire for prices.

All times may be subject to weather conditions and Bute Park closing hours.

Ffôn

074 4544 0874

E-bost

cardiff.boat.tours@gmail.com

Cyfeiriad

Mermaid Quay, Cardiff Bay, Cardiff, CF10 5BZ