Neidio i'r prif gynnwys

CLWB PÊL-DROED DINAS CAERDYDD

Clwb pêl-droed yw Dinas Caerdydd gyda dros 100 mlynedd o hanes, yn chwarae ym Mhencampwriaeth EFL ar hyn o bryd ar ôl tymor yn rhan o Uwchgynghrair Lloegr.

SWYDDFA TOCYNNAU

Llun - Gwem

09:30 - 17:00

Sad (Gemau)

09:30 - Hanner Amser

Sad (Dim Gemau)

09:30 - 15:00

Sul

Ar Gau

Clwb Dinas Caerdydd yw ein tîm pêl-droed proffesiynol, a gaiff eu hadnabod ymhlith y cefnogwyr fel yr Adar Gleision. Ers 2009, maent wedi chwarae eu gemau cartref yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar Heol Lecwydd, gyda chapasiti ar gyfer 33,316 o bobl. Maent yn un o dim ond tri thîm o Gymru sy’n chwarae ar bedair lefel uchaf Cynghrair Pêl-droed Lloegr, yn ogystal â’u gwrthwynebwyr lleol Dinas Abertawe a Sir Casnewydd. Yn dilyn eu safle terfynol yn ail yn y Bencampwriaeth y llynedd, enillodd Caerdydd ddyrchafiad i’r Uwch Gynghrair ar gyfer tymor 2018/19.

TEITHIAU

Teithiau o’r Stadiwm

Ewch y tu ôl i lenni Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd gyda thaith o Stadiwm Dinas Caerdydd. Dewch i ymuno â’n tywyswyr teithiau profiadol a chael cyfle i brofi hanes wrth glywed y stori am y dyrchafiad i Uwchgynghrair Lloegr.

Ewch i ymyl y cae a’r fainc yn ogystal â chymryd sedd yn yr ystafelloedd newid lle mae eich arwyr wedi eistedd. Archwiliwch ein lefelau lletygarwch a chael gweld yr olygfa odidog.

Mae ein tywyswyr yn llawn gwybodaeth a brwdfrydedd am y clwb ac maent yn brofiadol iawn o ran cynnal teithiau i bobl o bob oed a grwpiau o bob maint, i wneud eich taith yn brofiad gwirioneddol bleserus a chofiadwy.

Ymweliadau Grŵp a Chlwb

Mae taith o Stadiwm Dinas Caerdydd yn brofiad grŵp perffaith, gellir addasu’r teithiau i fodloni gofynion penodol. Gallwn hefyd gynnal seremoni diwedd tymor eich clwb ar ôl eich taith o’r stadiwm; dewch chi â’r medalau a’r tlysau a byddwn ni’n cynnig y lleoliad perffaith!

 

Ffôn

084 5345 1400

Cyfeiriad

Heol Lecwydd, Caerdydd CF11 8AZ