Tim chwaraeon proffesiynol mwyaf llwyddiannus Cymru, mae’r Cardiff Devils yn dîm hoci iâ wedi’i lleoli yn Vindico Arena ym Mae Caerdydd. Mae’r Devils yn Bencampwyr Playoff EIHL a Chwpan Her driwaith, yn ogystal â Bencampwyr Cynghrair Elite ddwywaith. Gan gystadlu yn Uwch Gynghrair Hoci Iâ, adran hoci iâ gorau’r DU, rydych yn sicr o weld cyffro a rhai o talent hoci iâ gorau Prydain.
Mae gemau’r Devils yn addas i’r teulu ac mae seddi hygyrch ar gael. Mae’r rhan fwyaf o gemau yn attirio cynulleidfaoedd, felly y ffordd orau o wylio gem yw trwy archebu ymlaen llaw yma.
BLE MAE'R ARENA?
Mae Vindico Arena yn y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol ym Mae Caerdydd, ar draws y ffordd o hen siop Toys R Us ac yn llythrennol drws nesaf i’r Pwll Rhyngwladol. Mae'r brif fynedfa yn wynebu mynedfa flaen y pwll.
AR DRÊN
Yr orsaf reilffordd agosaf yw Cogan, trwy wasanaeth rheolaidd Ynys y Barri o Gaerdydd Canolog. Wrth adael yr orsaf, croeswch yr heol fawr a cherdded ar draws pont droed Pont-y-Werin, trowch i'r dde a dilynwch y ffordd nes i chi weld yr arena.
AR FWS
Y safle bws agosaf yw Rhodfa Olympaidd. Mae Bws Caerdydd yn gweithredu gwasanaeth Rhif 9, sy'n gadael Heol y Porth yng nghanol y ddinas ac yn gollwng y tu allan i'r arena.
PARCIO
Mae parcio am ddim ar gael ym maes parcio'r Arena a maes parcio ychwanegol y Pwll Rhyngwladol ond mae lleoedd yn gyfyngedig. Mae parcio ychwanegol â thâl ar gael ar ddiwrnodau gêm yn hen faes parcio Toys R Us ac yn Nhŷ Wilcox gerllaw.
Ffôn
0800 0842 666
E-bost
info@cardiffdevils.com
Cyfeiriad
Viola Arena, Olympian Drive, Cardiff, CF11 0JS
General Enquiries