Neidio i'r prif gynnwys

PWLL A CHAMPFA RHYNGWLADOL CAERDYDD

Mae Pwll Rhyngwladol a Champfa Caerdydd yn gyfleuster gwych yng nghanol Bae Caerdydd, a fydd yn rhoi oriau o hwyl i'r teulu cyfan!

OPENING HOURS

Mon - Fri

06:00 - 21:00

Saturday - Sun

09:00 - 17:00

Mae Pwll Rhyngwladol a Champfa Caerdydd yn gyfleuster modern sydd wedi’i leoli yng nghanol Bae Caerdydd. Rydym yn falch iawn o’r Pwll Hamdden cyffrous sy’n cynnwys Ffliwmiau, Powlen Ddŵr ac Afon Araf; i gyd wedi’u gwarantu i’ch wneud i’ch pen droelli! Mae gennym hefyd strwythur chwarae i blant bach a llithren ar gyfer ein nofwyr bach!

Fel y byddai ein henw’n awgrymu, rydym hefyd yn adnabyddus am ein Pwll Nofio Rhyngwladol 50m trawiadol; ddefnyddir gan nofwyr ‘cystadleuol’ a’n nofwyr ‘bob dydd’.

Os nad nofio yw’r peth i chi beth am roi cynnig ar ein campfa 60+ gorsaf o’r radd flaenaf, neu efallai hyfforddi gydag eraill yn un o’n Dosbarthiadau Ffitrwydd dan arweiniad Hyfforddwyr neu ein Dosbarthiadau Ffitrwydd Rhithwir Les Mills; mae pob un ohonynt wedi’u gwarantu i gyflymu’r galon!

Yna pan fydd yn amser i ymlacio; mwynhewch ein Hystafell Iechyd gyda Sawna, Ystafell Stêm a Baddon Sba, ac yna coffi o’ch dewis yn ein Caffi cyfeillgar ar y safle.

Rydyn ni’n llawer mwy na phwll nofio.

Sylwch, mae’n ofynnol archebu pob sesiwn pwll hamdden ymlaen llaw cyn cyrraedd. Clicio yma i sicrhau eich lle.

Ffôn

029 2072 9090

E-bost

cardiff@legacyleisure.org.uk

Cyfeiriad

Olympian Drive, Grangetown, CF11 0JS