Wedi’i leoli ar Afon Elái ym Mae Caerdydd, mae Marina Caerdydd mewn safle perffaith i ddarparu angorfeydd diogel a chysgodol ar gyfer cychod modur a chychod hwylio.
Mae Bae Caerdydd yn amgylchedd deniadol a hawdd mynd ato i ddefnyddwyr cychod o bob safon. Mae darparu 200 hectar o ddŵr croyw i hwylio arno gyda’r Morglawdd yn caniatáu mynediad 24 awr i Fôr Hafren.