Mae’r cyfuniad o Gastell Hensol, sy’n llawn hanes, a’r naws fodern a natur hwyliog y jin crefft sypiau bach, yn creu profiad gwirioneddol unigryw, yn enwedig gan fod ambell i ddiod wedi’i chynnwys hefyd.
Mae’r daith jin 90 munud yn cynnwys G&T hyfryd wrth gyrraedd, cyn dysgu popeth am hanes Castell Hensol, gwreiddiau’r jin, rhyfeddodau perlysiau a’r broses ddistyllu, a sesiwn blasu jin gyda thiwtor yn ein bar i orffen.
Mae ein profiad gwneud jin yn berffaith i unrhyw un sy’n hoff o’i jin, ac yn rhoi’r cyfle i chi ddistyllu eich potel unigryw eich hun o’r gwirod blasus hwn. Felly, os ydych chi’n dod ar eich pen eich hun neu gyda ffrindiau, gallwch fod yn sicr y byddwch yng nghwmni pobl sy’n joio’u jin.
Mewn Car - o Gyffordd 34 yr M4
Cymerwch yr allanfa ar gyfer Pendoylan a Hensol. Trowch i’r gyntaf ar y dde gan ddilyn arwyddion ar gyfer Pendoylan, Hensol a Vale Resort. Trowch i’r gyntaf ar y dde sydd wedi’i arwyddo i Hensol, Meisgyn a Vale Resort. Parhewch ymlaen ar hyd y troad, pasiwch heibio’r ganolfan ambiwlans ac yna cymerwch droad i'r chwith a mynd yn syth ymlaen i Gastell Hensol lle mae parcio am ddim ar gael.
Ffôn
01443 667999
E-bost
marketing@hensolcastledistillery.com
Cyfeiriad
Selerau Castell Hensol, Hensol, Bro Morgannwg, CF72 8JX