Gyda’i waliau haearn rhychiog a’r goleuadau tylwyth teg aml-liw, a murlun wedi’i ysbrydoli gan yr artist lleol R-mer, Chai Street ar y Stryd Fawr yw ein lleoliad braf a balch yng nghanol y ddinas. Ar agor o hanner dydd bob dydd o’r wythnos, dyma’r lle perffaith i fachu bwyd stryd Kerala blasus wrth i chi siopa, cyn mynd i gêm, neu tra ar eich cinio yn ystod yr wythnos.
Lleoliad: 15 Stryd Fawr, Caerdydd CF10 1AX