Gyda chyn-fyfyrwyr sy’n cynnwys yr anhygoel Syt Anthony Hopkins, Ruth Jones a Rob Brydon, a Chydymeithion sy’n cynnwys Bryn Terfel a’r Fonesig Shirley Bassey, mae’r perfformiadau’n arddangos talent ryfeddol y lle hwn ac ystod o gerddorion, artistiaid a chwmnïau talentog ac amrywiol o’r radd flaenaf.
Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Conservatoire Cenedlaethol Cymru a rhan o Grŵp Prifysgol De Cymru yn cystadlu ynghyd â grŵp cyfoedion rhyngwladol o conservatoires a cholegau celf arbenigol am y myfyrwyr gorau o bedwar ban, gan alluogi myfyrwyr i fod yn rhan o fyd cerddoriaeth, theatr a’r proffesiynau cysylltiedig a dylwnadu arno.
Mae’r Coleg yn addysgu rhai o’r myfyrwyr mwyaf dawnus o bob cwr o’r byd, gan geisio rhoi’r sgiliau technegol a chrefft sydd eu hangen arnynt i lwyddo’n uchelfannau’r proffesiwn, a hefyd eu helpu i ddatblygu eu ‘llais’ artistig unigol.
Mae calendr digwyddiadau’r Coleg yn cynnwys dros 300 o berfformiadau bob blwyddyn gan gynnwys cyngherddau cerddorfaol, datganiadau, drama, opera a theatr gerddorol. Mae amrywiaeth creadigol y coleg yn sicrhau amgylchedd difyr a phrofiad eang i fyfyrwyr o bob disgyblaeth.
Mewn Car
Mae’r coleg ar Heol y Gogledd, wrth Gastel Caerdydd, yng nghanol y ddinas. Defnyddiwch CF10 3ER i gyrraedd â’ch Llywiwr Lloeren.
Parcio
Nid oes llefydd parcio ar y safle ond mae meysydd parcio talu ac arddangos cyfagos yn Heol y Gogledd (CF10 3DU) a Gerddi Alexandra (CF10 3NW).
Ar Fws
Y safle bysus agosaf yw Heol y Coleg RK.
Ar y Trên
Yr orsaf drên agosaf yw Gorsaf Cathays, tua 7 munud o gerdded i ffwrdd.
Ffôn
029 2039 1391
E-bost
boxoffice@rwcmd.ac.uk
Cyfeiriad
Castle Grounds, North Road, CF10 3ER