Mae wedi’i rannu dros ddau lawr ar wahân, gyda naws wahanol ar bob lefel. Mae croeso i westeion i’r llawr gwaelod sy’n gyfeillgar i gŵn, gyda’i far ei hun – yn cynnig coffi boreol, gweithio o le a hamdden ar ôl siopa. Wrth i’r dydd fynd yn ei flaen, mae’r awyrgylch yn mynd yn fwy bywiog, mae’r diodydd yn llifo a’r gwesteion yn setlo i lawr ar gyfer y nos.
Wrth fynd i fyny’r grisiau, mae’r llawr cyntaf wedi’i angori gan y Bar Atriwm – bar coctel siâp pedol wedi’i osod o dan wydr nenfwd hanesyddol. Gall gwesteion eistedd i lawr am goctel wedi’i wneud yn arbenigol, neu setlo i lawr ar gyfer brecwast, cinio neu swper. Mae gan y llawr cyntaf frasserie a dau le unigryw y gellir eu cymryd drosodd ar gyfer digwyddiadau preifat a chyfarfodydd.
Un o nodweddion unigryw Coppa Club Caerdydd yw’r gwahanol ofodau hyn. Gellir cymryd yr holl fwyty ar y llawr cyntaf drosodd – gyda seddi am 43 o westeion, neu fwy ar gyfer digwyddiadau sefyll! Mae hefyd yn ymfalchïo ystafell fwyta breifat glyd gyda’i chwtsh ei hun ar gyfer diodydd cyn ac ar ôl, sy’n eistedd hyd at 12 o westeion.
Am fwy o wybodaeth ac i archebu eich ymweliad, ewch i’r wefan yma.