Neidio i'r prif gynnwys

Craft*folK – wrth galon Sîn Grefftau Caerdydd; wedi ymrwymo i ddarparu platfform, trwy eu digwyddiadau, i artistiaid a gwneuthurwyr crefftau.

ORIAU SWYDDFA:

Llun - Gwe

10:00 - 16:00

Craft*folk Craft*folk Craft*folk Craft*folk Craft*folk Craft*folk

Mae Craft*folK yn fusnes bach preifat a sefydlwyd yn benodol, dros 20 mlynedd yn ôl, i ddod â digwyddiadau celf a chrefft awyr agored i Gaerdydd a’r cyffiniau.

Mae’n nhw wedi ymrwymo’n llwyr, trwy eu digwyddiadau, i ddarparu platfform i artistiaid, gwneuthurwyr crefftau, a chynhyrchwyr bwyd a diod i arddangos a gwerthu eu gwaith eithriadol yn uniongyrchol i’r cyhoedd.  Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni mae’n bwysicach byth i amddiffyn ein treftadaeth celf a chrefft, er mwyn sicrhau bod lle bob amser yn y byd manwerthu i wreiddioldeb ac amrywiaeth.

Er mwyn cynnal y gwaith arloesol ac amrywiol sydd ar werth yn eu digwyddiadau, mae Craft*folK hefyd yn mynd ati i annog arddangoswyr newydd i gymryd rhan ac felly gwnaethant lansio eu cynllun Stondin Blasu dros ddeng mlynedd yn ôl i wneud hyn, gan gynnig cyfnodau byrrach ar gyfraddau gostyngedig ar bob un o’u marchnadoedd yn nghanol y Ddinas, oedd yn llwyddiannus iawn. Mae eu blwyddyn o ddigwyddiadau yn dechrau gyda marchnad Dydd Gŵyl Dewi ac yn cyrraedd ei hanterth gyda Marchnad Nadolig Caerdydd yn nghanol Dinas Caerdydd i gerddwyr. Gellir dod o hyd i fanylion llawn o bob digwyddiad yn www.craftfolk.com  a www.cardiffchristmasmarket.com

Yn 2015 gwnaethant ehangu eu Marchnad Nadolig i Hills Street, sef ardal cerddwyr brysur arall yng Nghanol y Ddinas, ac ers hynny maent wedi mynd o nerth i nerth wrth ategu a gwella’r profiad eithriadol o siopa Nadolig yn ein prifddinas. Yn wahanol i’r Marchnadoedd Nadolig y byddech o bosibl yn eu gweld mewn dinasoedd eraill, mae hon yn agored i waith llaw yn unig, lle y gallwch gwrdd â’r crefftwyr eu hunain.  Bob blwyddyn byddant yn trefnu rhaglen dreigl o mwy na 200 o grefftwyr talentog, sy’n lleol yn bennaf, ledled eu marchnad, gan sicrhau y bydd siopwyr ac ymwelwyr yn dod o hyd i rywbeth newydd a gwahanol bob wythnos.

Mae Craft*folK yn arbennig o falch bod llawer o’u cyfranogwyr dros y blynyddoedd wedi symud yn eu blaen i bethau mwy, gan gael eu cydnabod oherwydd safon eu gwaith ac ysbrydoliaeth eu dyluniadau.  Mae eu llwyddiant economaidd, yn ogystal ag ansawdd eu gwaith unigryw, yn rhoi Caerdydd ar flaen y gad o ran digwyddiadau crefft ym Mhrydain.  Mae’n dod â blas Cymreig i fyd celf a chrefft a gydnabuwyd yn ddiweddar mewn nifer o gyhoeddiadau Cenedlaethol a Rhyngwladol.  Mae Craft*folK yn ychwanegu at yr awyrgylch unigryw sy’n sicrhau bod prifddinas Cymru yn lle gwych i ymweld â hi.

Ffôn

029 2051 4732

E-bost

jane@craftfolk.com

Cyfeiriad

PO Box 26, Dinas Powys, CF64 4YR