Gyda’i gwreiddiau yn dyddio’n ôl i ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae’r dafarn hir a chul, fu gynt yn dŷ teras, yn gyforiog o hanes Cymru. Mae’i gwreiddiau’n hynod bwysig i’r Daffodil. Mae’r bwydlenni bwyd a diod yn adlewyrchu traddodiadau Cymru. Ac mae Daffodil yn siŵr o apelio at bawb sy’n dwlu ar fwyd. Gyda chynnyrch lleol, Cymreig, o ffynonellau cynaliadwy yn hollbwysig, mae rhywbeth at ddant pawb. Boed yn chwilio am frecwast hwyr, cinio, neu swper. Coffi boreol, diod ar ôl gwaith neu wledd dydd Sul. Dihangfa rhag y siopa, pryd agos atoch neu ardal cwrdd breifat, rydyn ni’n ddelfrydol ar eich cyfer chi.
Mae’r bar a’r bwyty ar y llawr gwaelod gyda’r Windsor Room’ uwchben. Ar gael i’w llogi bob adeg o’r dydd, gall yr ystafell ddarparu ar gyfer 14 o bobl yn bwyta neu hyd at 30 o bobl yn yfed.
Yng nghanol y ddinas, mae’n hawdd ei chyrraedd, gyda pharcio ar gael yn syth o flaen yr adeilad.