Neidio i'r prif gynnwys

DUCHESS OF DELHI

Mae Duchess of Delhi yn cynnig y bwyd gorau o dde Asia ger dyfroedd deniadol ac atyniadau poblogaidd Bae Caerdydd.

ORIAU AGOR

Llun - Iau

17:00 - 23:30

Gwe

12:00 - 23:30

Sad

12:00 - 00:30

Sul

13:00 - 22:00

Gan gynnig y bwyd gorau o dde Asia ger dyfroedd deniadol ac atyniadau poblogaidd Bae Caerdydd, mae’r bwyty hwn mewn adeilad cofrestredig gradd 2 hardd sy’n edrych tuag at Ganolfan y Mileniwm.

Yn gartref gynt i gapten môr ac wedyn i Gwmni Glo Morgannwg ym 1893, mae’r adeilad wedi sefyll trwy newid yr ardal o safle allforio glo i ardal o’r enw ‘Tiger Bay’. Mae bellach yn adrodd stori dra wahanol, gan ddangos bod y diwydiant bwyd Asiaidd yn gyffredin iawn ym Mhrydain erbyn hyn.

Mae’r lleoliad bywiog a chelfydd, sy’n adlewyrchu lliwiau cyfoethog moethus Asia, yn arddangos gwaith celf a dodrefn trawiadol. Mae sefydlwyr Duchess of Delhi wedi defnyddio dylunwyr ac artistiaid o bedwar ban y byd, sydd oll yn rhannu’r un nod: creu bwyty Indiaidd go iawn. Mae arddull y tu mewn yn glasurol, gan greu awyrgylch cynnes trwy adlewyrchu treftadaeth gyfoethog Rajas a Mogyliaid India. Mae’r bwyty lan lofft, Lolfa’r Nawab, yn cynnwys ardal eistedd glyd lle gall gwesteion yfed, ymlacio a mwynhau ein gemau bwrdd cywrain, gan greu lleoliad delfrydol i deuluoedd ac achlysuron.

Lle ar gyfer hyd at 120 o westeion gan gynnwys ystafell achlysur breifat â 65 sedd.

Rhowch gynnig ar Duchess of Delhi heddiw trwy gadw lle.

Ffôn

029 21153574

E-bost

info@duchessofdelhi.com

Cyfeiriad

6 Bute Crescent, Cardiff, CF10 5AN