Fel cyn Eglwys i forwyr o Norwy, mae’r adeilad eiconig yn dyddio nôl i’r chwyldro diwydiannol, pan mai Dociau Caerdydd oedd un allforiwr glo mwyaf y byd.
Boed chi’n cwrdd â ffrindiau, yn cerdded o amgylch Bae Caerdydd neu’n mwynhau un o’r llu o ddigwyddiadau lleol, rydym yn y lle perffaith i chi allu cymryd hoe haeddiannol.
Mae dewis amheuthun o gacennau cartref, brechdanau a byrbrydau i ddiwallu’r awydd bwyd a fydd ein te a’n coffi ni ddim yn eich siomi chi chwaith!
A oeddech chi’n gwybod i’r Eglwys Norwyaidd gynnal gwasanaeth bedydd Roahld Dahl?
Gyda’i leoliad heb ei ail a’i du allan pren trawiadol, mae’r Eglwys Norwyaidd yn cynnig lleoliad perffaith ar gyfer cynadleddau bychain, cyfarfodydd, arlwyo corfforaethol, cyngherddau a gwleddoedd priodas. Gall yr Ystafell Grieg hanesyddol gynnal cyfarfod ar batrwm theatr i hyd at 60 mynychwr (yn ystod y dydd) 90 mynychwr (gyda’r nos), neu ar batrwm ystafell fwrdd/pedol ar gyfer hyd at 30 mynychwr. Gall y Ganolfan ddarparu ar gyfer 80 o westeion ar gyfer gwledd briodas ffurfiol.
Y tu ôl i’w ffasâd unigryw mae’r lleoliad yn un hynod o hyblyg gyda’i daflunydd integredig a’i system sain ei hun, goleuo, system clywed sain a llwyfannu yn ogystal a WiFi am ddim. Mae hefyd yn lleoliad delfrydol ar gyfer cyngherddau, sioeau a gigs gyda seddi i 90. Mae arlwyo a bar trwyddedig yn y lleoliad hefyd.
Mae’r Eglwys Norwyaidd (Elusen Cofrestredig 519831) yn cynnig cyngherddau cyson, theatr ac ystod o ddigwyddiadau sy’n cael eu mwynhau gan y gymuned yng Nghaerdydd a chan ymwelwyr.
Gallwch gysylltu â ni ar y ffôn neu e-bost er mwyn rhag-archebu tocynnau ar gyfer digwyddiad (oni bai y nodir fel arall).
Ffôn
029 2087 7959
E-bost
eglwysnorwyaidd@caerdydd.gov.uk
Cyfeiriad
Rhodfa’r Harbwr, Caerdydd, CF10 4PA