Neidio i'r prif gynnwys

Cludiant cysurus i’ch cyrchfan.

Opening hours

DYDD SUL - DYDD SADWRN

07:00 - 00:00

Rydym yn gwmni cludo cwsmeriaid yn gweithio o Faes Awyr Caerdydd, ac rydym mewn safle gwych felly i gludo cwsmeriaid busnes a hamdden i’w cyrchfan yn ne Cymru.  Mae gennym fflyd gymysg o gerbydau, yn salŵnau, ceir mawr a bysys mini, i gyd yn cael eu gyrrau gan yrwyr profiadol, moesgar a chymwynasgar.  Gall teithwyr archebu o flaen llaw, ar-lein neu dros y ffôn, a bydd y gyrrwr yn disgwyl amdanynt wrth ein desg yn y neuadd gyrraedd.  Ein nod yw helpu i wneud eich ymweliad â’n prifddinas yn un cadarnhaol a phleserus.

Mae Flight Link Cymru yn Wasanaeth Gwennol dibynadwy yn gweithio’n bennaf o Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd, ond mae gennym wasanaethau hefyd o Faes Awyr Rhyngwladol Bryste, Heathrow a Gatwick i Dde Cymru.  Mae’r gwasanaeth cwrdd a chyfarch yn ffordd wych o deithio i Gaerdydd. Cewch ddiodydd am ddim, ac felly byddwch yn teimlo’n ffres ac yn fodlon wrth gyrraedd.

Bydd y gwasanaeth gwennol moethus yn eich cludo’n gysurus i’ch cyrchfan, ac i’r rhai sy’n cadw golwg fanwl ar gostau, mae’r gwasanaeth gwennol a rennir yn ffordd hwylus ac economaidd o deithio.  Mae holl gerbydau a gyrwyr Flight Link Cymru wedi eu clirio ar gyfer Maes Awyr Caerdydd a gallant gasglu a gollwng teithwyr y tu allan i’r terfynellau, yn gweithio law yn llaw â’r rhan fwyaf o brif westai Caerdydd.  Bydd Flight Link Cymru yn eich cludo’n brydlon i’ch cyrchfan, bob tro.

CYFEIRIAD

CYFEIRIAD

Ffôn

+44 (0)29 2025 3555

E-bost

info@flightlinkwales.com

Cyfeiriad

16 Museum Place Cardiff South Glamorgan CF10 3BH Wales