Croeso i The Flor: Tafarn yn Cathays ydy hon, gyda choctels a fyddai’n gallu herio coctels canol y ddinas, bwyd cyffrous ac arloesol, êl a chwrw o safon wych, gwasanaeth cyfeillgar, digwyddiadau da a gardd gwrw braf!
Mae The Flora wedi neidio i ben rhestr tafarndai gorau Cathays ar ôl ei hadnewyddu yn ddiweddar. Mae’r dafarn – sy’n hoff lecyn gan fyfyrwyr bellach – wedi ei thrawsnewid yn lle ffasiynol, trefol i fyfyrwyr a gweithwyr proffesiynol ifainc. Mae’r addurniadau mewnol yn greadigol, gwahanol a chyfoes; mae’r diodydd yn flasus iawn a fforddiadwy ac mae’r bwyd wedi ennill clod iddynt, yn enwedig eu cinio dydd Sul sy’n annatod wrth enw The Flora bellach. Os ydych chi am fynd yno ar ddydd Sul, buasai’n syniad cadw bwrdd o flaen llaw.
Mae’r tu allan yr un mor cŵl, braf a glân â’r tu mewn. Mae yno fwrdd pŵl, digon o seddau a byrddau, goleuadau bychain ac yn bwysicach fyth, mae’n cael digon o olau’r haul. Dyma sy’n gwneud hon yn un o’r gerddi cwrw gorau yn yr haf!
Mae The Flora yn enwog am ei digwyddiadau ardderchog, megis y cwis nos Lun poblogaidd, y rêfs gardd a’r nosweithiau meic agored agos atoch chi.
Ffôn
029 2117 0000
E-bost
hello@theflora.co.uk
Cyfeiriad
The Flora, 136 Cathays Terrace, Caerdydd CF24 4HY